Croeso i Christ Church Prestatyn

Mae Christ Church yn lle ar gyfer gweddi, croeso a chymuned yng nghanol Prestatyn. Rydym yn eglwys gynhwysol a bywiog sydd yma i bawb. I ddathlu adegau llawen bywyd, i gynnig cysur mewn cyfnodau o angen, ac i rannu cariad Duw mewn ffyrdd ymarferol ac ystyrlon. P’un a ydych yn archwilio ffydd, yn chwilio am gyfeillgarwch, neu’n gobeithio cael lle tawel i fyfyrio, bydd drws Christ Church yn agored i chi bob amser a byddwn yn estyn croeso cynnes i chi.

Yr Eglwys yn Fyr

Mae ein Hwb Cenhadol wedi ei wreiddio yn ein ffydd a’i arwain gan esiampl Iesu, ac mae’n ymroddedig i hyrwyddo agwedd gyfannol tuag at genhadaeth ac allgymorth sy’n ymgorffori cariad Crist. Rydym yn ymroddedig i’n cyfrifoldeb i ofalu am holl greadigaeth Duw, ac mae ein gwaith wedi ei seilio mewn meithrin ein hamgylchedd a’n hadnoddau er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Mae ein cenhadaeth yn adlewyrchu gwaith Crist drwy gefnogi grwpiau bregus gyda thrugaredd a chalon sy’n gwasanaethu. Mae ein Gweithredoedd yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael clust a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Mae ein lle ni ym Mhrestatyn yn lle o noddfa i holl greadigaeth Duw. Ein Blaenoriaeth yw lles yr unigolion yn ein cymuned, lle byddwn yn ymdrechu i hyrwyddo iechyd meddwl, emosiynol ac ysbrydol. Trwy ddisgyblaeth, cenhadaeth ac efengyliaeth, ein nod yw adeiladu perthynas ddilys a diledryw gyda Christ.

Trwy weddi, byddwn yn grymuso pobl eraill i dyfu mewn ffydd, i ddod â gobaith, dangos cariad a rhannu newyddion da’r efengyl. Mewn brawdoliaeth, ceisiwn adeiladu cymuned ac eglwys o ffydd ddofn lle mae pob rhan o greadigaeth Duw’n cael eu caru, eu hanwylo, eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u hannog.

Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd

Mae ein gweledigaeth yn cofleidio 5 gwerth craidd allweddol:

  • Crist: am ein bod yn gweddïo ac ymddiried ynddo Ef
  • Lletygarwch: rydym eisiau croesawu pobl bob amser
  • Ymgyrchedd: rydym yn GWNEUD pethau, nid yn siarad amdanyn nhw yn unig
  • Allgymorth: dydyn ni ddim yn Eglwys os nad yw allgymorth yn rhan annatod o’n hunaniaeth
  • Gwasanaeth: rydym yn arwain gyda chalonnau sy’n gwasanaethu, yn union fel y gwnaeth Crist

Rydym yn ymdrin â’n gwerthoedd craidd i gyd drwy fod yn ymroddedig i weddi, cynaliadwyedd a chymuned.

Mae ein datganiad cenhadaeth wedi ei seilio ar Colosiaid 2:6:

Mae ein Hwb Cenhadol wedi ei wreiddio yn ein ffydd a’i arwain gan esiampl Iesu ac mae’n ymroddedig i hyrwyddo agwedd gyfannol tuag at genhadaeth ac allgymorth sy’n ymgorffori cariad Crist. Rydym yn ymroddedig i’n cyfrifoldeb i ofalu am holl greadigaeth Duw, ac mae ein gwaith wedi ei seilio mewn meithrin ein hamgylchedd a’n hadnoddau er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Mae ein cenhadaeth yn adlewyrchu gwaith Crist drwy gefnogi grwpiau bregus gyda thrugaredd a chalon sy’n gwasanaethu. Mae ein Gweithredoedd yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael clust a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Mae ein lle ni ym Mhrestatyn yn lle o noddfa i holl greadigaeth Duw.

Ein blaenoriaeth yw lles yr unigolion yn ein cymuned, lle byddwn yn ymdrechu i hyrwyddo iechyd meddwl, emosiynol ac ysbrydol.

Trwy ddisgyblaeth, cenhadaeth ac efengyliaeth, ein nod yw adeiladu perthynas ddilys a diledryw gyda Christ.

Trwy weddi, byddwn yn grymuso pobl eraill i dyfu mewn ffydd, i ddod â gobaith, dangos cariad a rhannu newyddion da’r efengyl. Mewn brawdoliaeth, ceisiwn adeiladu cymuned ac eglwys o ffydd ddofn lle mae pob rhan o greadigaeth Duw’n cael eu caru, eu hanwylo, eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u hannog.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, defnyddiwch y bocs cynnwys isod

Contact cy