Ychydig iawn o ddiwrnodau sydd mor arwyddocaol â hwnnw lle’r ydych yn sefyll gyda’r person yr ydych yn eu caru ac yn addo treulio’r dyfodol gyda’ch gilydd. Yn Christ Church, byddai’n anrhydedd gennym fod yn rhan o’r ennyd honno. Mae ein eglwys hanesyddol, sydd wedi bod yn greiddiol i Brestatyn ers canrifoedd, yn cynnig lle prydferth, dwyfol ar gyfer eich seremoni briodas. P’un a ydych yn breuddwydio am ddathliad mawreddog neu wasanaeth gynnes, agos-atoch syml, mae ein tîm yma i’ch arwain a’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.
Mae pob priodas yn Christ Church yn unigryw. Mae rhai cyplau’n dewis gwasanaeth traddodiadol wedi ei drwytho mewn hanes ac emynau; mae’n well gan eraill rywbeth mwy personol a modern. Waeth beth yw eich steil, bydd eich seremoni’n ddathliad hynod ystyrlon o gariad, ymrwymiad a ffydd – wedi ei rannu â’r bobl sydd bwysicaf i chi.
01.
I briodi yn Christ Church, un o’r pethau pwysicaf sy’n rhaid i chi ei gael yw rhywbeth o’r enw cysylltiad cymwys â’r eglwys. Gallai hynny olygu eich bod yn byw yn y plwyf yn awr, eich bod wedi byw yma yn y gorffennol, eich bod wedi cael eich bedyddio neu eich derbyn i’r eglwys yma, neu mae gennych rieni neu neiniau a theidiau sydd â chysylltiad â’r eglwys. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys, peidiwch â phoeni, gallwn eich cymryd drwy’r opsiynau a’ch helpu i archwilio ffyrdd o wneud Christ Church yn rhan o’ch stori.
02.
Mae’r mwyafrif o gyplau’n priodi drwy gyhoeddi gostegion, sef gofyniad cyfreithiol traddodiadol lle mae rhywun yn cyhoeddi eich bwriad i briodi yn ystod gwasanaeth y Sul ar dair wythnos wahanol yn y tri mis cyn eich priodas.
Os nad ydych chi neu os nad yw eich partner yn wladolyn y DU, neu os oes amgylchiadau arbennig eraill, efallai y bydd angen i chi gael trwydded yn lle hynny. Byddwn yn eich tywys chi drwy ba broses bynnag sy’n gywir i chi.
03.
O gerddoriaeth a darlleniadau i flodau a ffotograffau, bydd eich priodas yn cael ei siapio o gwmpas yr hyn sydd bwysicaf i chi.
Bydd sgyrsiau cynnar gyda’n tîm yn ein helpu i ddeall eich gobeithion ar gyfer y diwrnod, a gyda’n gilydd awn ati i gynllunio seremoni sy’n bersonol, ystyrlon ac wedi ei wreiddio yn ffydd a thraddodiadau’r Eglwys yng Nghymru.